SL(5)333 - Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002"). Mae Adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth, ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau, mewn perthynas â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu.
Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliad 2 yn cynnwys y diffiniad a ganlyn (ychwanegwyd y pwyslais):
Ystyr "rhiant mabwysiadol yw person-
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ei fod yn rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol,
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu,
(c) sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn,
(d) sydd wedi mabwysiadu plentyn, neu
(e) sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny,
ond nid yw’n cynnwys person sy’n llys-riant i’r plentyn neu’n rhiant geni i’r plentyn neu a oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn.
O ran y diffiniad ym mharagraff (a), ymddengys bod y diffiniad yn gylchol, hy diffinnir rhiant mabwysiadol drwy gyfeirio at riant mabwysiadol. Rydym yn tybio y dylid diffinio rhiant mabwysiadol ym mharagraff (a) drwy gyfeirio at ddarpar fabwysiadydd addas o dan reoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae elfen craffu technegol yr adroddiad drafft yn cyfeirio at un pwynt drafftio sy’n cael ei nodi.
Mae’r diffiniad o “rhiant mabwysiadol” yn rheoliad 2 yn adlewyrchu darpariaeth sy’n union yr un fath â darpariaeth a wneir mewn Rheoliadau presennol sydd hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi gwasanaethau cymorth mabwysiadu, sef Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1512 (Cy. 116)).
Cydnabyddir bod y diffiniad braidd yn gylchog. Fodd bynnag, mae’r geiriad yn is-baragraff (a) yn dal i weithio er mwyn ei gwneud yn glir bod y term “rhiant mabwysiadol” yn cynnwys y rheini sydd wedi eu cymeradwyo mewn perthynas â phlentyn penodol hyd yn oed os nad yw’r plentyn wedi ei leoli gyda hwy eto.
Ar y sail honno, ni fwriadwn gyflwyno unrhyw welliant i’r diffiniad gan ein bod wedi ein bodloni bod yr ystyr yn ddigon clir fel y’i drafftiwyd ac y caiff ei ddeall gan yr holl bersonau hynny y mae’r Rheoliadau yn effeithio arnynt neu y bydd y Rheoliadau yn effeithio arnynt.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
21 Chwefror 2019